The award-winning Cardiff Ardwyn Singers, led by Musical Director David Leggett, is one of Wales’s leading mixed choirs enjoying a reputation for its varied repertoire, and a particular affinity with contemporary Welsh music.

Since its formation in 1964, the choir has performed with many of the world’s leading conductors, orchestras and soloists including Sir Colin Davies, Sir Andrew Davis, Tadaaki Otaka, The London Symphony Orchestra, BBC National Orchestra of Wales, The Royal Philharmonic Orchestra, Raphael Wallfisch, Lucian Pavarotti, Dame Kiri Te Kanawa, Bryn Terfel, and the Choir’s presidents Owain Arwel Hughes OBE and Dennis O’Neill MBE.

Concert highlights in recent years have included Beethoven 9 with the Dresden Philharmonic under Michael Sanderling in St David’s Hall, Cardiff and Cadogan Hall, London. Earlier in 2019 we performed Mendelssohn’s Elijah with the Berlin Schöneberg Orchestra in Cardiff, St David’s and the prestigious Berliner Philharmonie Concert Hall, under the baton of Raphael Haeger.

The choir’s versatility has led to countless recordings and broadcasts on both radio, including regularly on BBC Radio 4’s Sunday Service, and on television, most recently as part of the commemorations to mark the centenary of the outbreak of the First World War. As part of our 50th anniversary celebrations we released a recording of some of our most popular repertoire on a CD. We have also produced a fascinating book about the history of Cardiff Ardwyn Singers and choral singing in Wales. 

The commissioning of new works remains high on the choir’s artistic agenda alongside an active tradition of promoting the work of Welsh composers, notably that of William Mathias, Alun Hoddinott, Geraint Lewis, John Metcalf and Mervyn Burtch. In 2015 the choir commissioned world-renowned harpist and musician Catrin Finch to compose Patagonia, a piece to commemorate the 150th anniversary of the Welsh settlement in Patagonia. In 2018, to celebrate 50 years’ service, we commissioned Tair Alaw from composer Rhian Samuel dedicated to our accompanist Janice Ball, who was also awarded a MEB in the New Year’s Honours in recognition of her services to music. The premiere was performed to a packed Dora Stoutzker Hall in Cardiff. For 2020 we have commissioned John Metcalf to compose a piece dedicated to Helena Braithwaite MBE for performance at a concert in her memory later in the year.

Recent Tours

  • 2005: Prague

  • 2007: Mallorca

  • 2009: Venice

  • 2011: Rome

  • 2014: Vienna

  • 2018: Nantes

  • 2023: Tuscany

Cardiff Ardwyn Singers has toured extensively throughout Europe and the Americas. Recent visits have included Prague, Mallorca, Venice, Guest Choir at the International Celtic Festival in Lorient, and Rome which included singing Mass in St Peter’s Basilica, Vatican City on Easter Monday. In 2014 the choir toured to Vienna where we sang Mass at one of the world’s most beautiful cathedrals – St Stephen’s – and Krakow where we performed a short concert 2 miles underground in the Salt Cathedral of Wieliczka Salt Mine. In 2018 the choir toured to Cardiff’s twin city of Nantes and performed with prestigious local choir Eclat de Voix who hope to make a return visit in 2021. As well as these concert tours the choir enjoys regular rehearsal weekends away where the focus is on socialising as much as honing our sound and repertoire, most recently to Aberystwyth, Edinburgh and Liverpool.


Yn un o brif gorau cymysg Cymru, mae Côr Cantorion Ardwyn Caerdydd o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerdd David Leggett. Mae’r côr yn mwynhau ei enw da am raglen gerddorol amrywiol yn ogystal â chyswllt arbennig gyda cherddoriaeth Gymreig gyfoes.

Ers ei ffurfio yn 1964, mae’r côr wedi perfformio gyda nifer o arweinyddion, cerddorfeydd ac unawdwyr blaenllaw’r byd gan gynnwys Syr Colin Davies, Syr Andrew Davis, Tadaaki Otaka, Cerddorfa Frenhinol Ffilhamornig, Raphael Wallfisch, Lucian Pavarotti, y Fonesig Kiri Te Kanawa, Syr Bryn Terfel, yn ogystal â llywyddion y Côr sef Owain Arwel Hughes OBE a Dennis O’Neill MBE. Mae’r uchafbwyntiau diweddaraf yn cynnwys perfformio Beethoven 9 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a Neuadd Cadogan, Llundain gyda’r Dresden Ffilharmonig o dan arweiniad Michael Sanderling. Yn gynharach yn 2019, perfformiwyd Elias Mendelssohn gyda Cherddorfa Schöneberg yng Nghaerdydd, Tŷ Ddewi yn ogystal â Neuadd Gyngerdd fawreddog Berliner Philharmonie, o dan arweiniad Raphael Haeger.

Mae hyblygrwydd y côr wedi arwain at nifer sylweddol o ddarllediadau ar y radio a’r teledu. Mae’r côr yn cymryd rhan yn rheolaidd ar y “Sunday Service” ar BBC Radio 4. Yr ymddangosiad diweddaraf ar y teledu oedd perfformio yn y coffadwriaethau i nodi cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. I ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu’r côr rhyddhawyd recordiad CD o rai darnau mwyaf poblogaidd y côr.

Yn ychwanegol, cynhyrchwyd llyfr hynod ddiddorol yn adrodd hanes Cantorion Ardwyn Caerdydd yn ogystal â chanu corawl yng Nghymru. Erys comisiynu gweithiau newydd yn flaenoriaeth uchel ar agenda artistig y côr yn ogystal â chynnal traddodiad o berfformio gweithiau cyfansoddwyr Cymreig megis William Mathias, Alun Hoddinott, Geraint Lewis, John Metcalf a Mervyn Birch. Yn 2015 rhoddwyd comisiwn i’r delynores fyd enwog Catrin Finch i gyfansoddi Patagonia, sef darn i goffáu 150 mlynedd ers i’r Cymry sefydlu ym Mhatagonia. Yn 2018 mawr oedd braint y côr i gomisiynu Tair Alaw gan Rhian Samuel yn deyrnged i Janice Ball wrth ddathlu 50 mlynedd o’i gwasanaeth fel ein cyfeilyddes. Derbyniodd Janice Ball Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydedd y Flwyddyn Newydd yn gydnabyddiaeth am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf i neuadd orlawn Dora Stoutzker yng Nghaerdydd. Ar gyfer 2020, mae’r côr wedi comisiynu John Metcalf i gyfansoddi darn i’w berfformio mewn cyngerdd i anrhydeddu a choffau Helena Braithwaite MBE.

Mae Cantorion Ardwyn wedi teithio yn helaeth yn Ewrop ac Unol Daleithiau’r America. Mae ymweliadau diweddar yn cynnwys Prague, Mallorca, Fenis a Chantorion Ardwyn oedd y côr gwâdd yn yr Ŵyl Geltaidd ryngwladol yn Lorient. Yn ogystal, ymwelwyd â Rhufain lle canwyd yr Offeren ym Masilica San Pedr, Dinas y Fatican ar ddydd Llun y Pasg. Yn 2014 perfformiodd y côr yr Offeren yn un o Eglwysi Cadeiriol harddaf y byd sef St Stephens yn Fienna. Yn Krakow perfformiwyd cyngerdd byr dwy filltir o dan y ddaear yn y ‘Salt Cathedral’ ym mwynglawdd halen Wieliczka . Yn 2018 fe deithiodd y côr i gefeilldref Caerdydd sef, Nantes a pherfformio gyda’r côr lleol adnabyddus Eclat de Voix, sydd yn gobeithio ymweld yn 2021. Yn ychwanegol i’r teithiau cerddorol yma mae’r côr yn mwynhau penwythnosau o ymarfer mewn gwahanol leoliadau pan mae’r ffocws ar gymdeithasu a pherffeithio’r sain a’r rhaglen. Bu’r ymweliadau diweddaraf yn Aberystwyth, Caeredin a Lerpwl.