We are currently welcoming new tenors and basses!

Ar hyn o bryd rydym yn croesawu
tenoriaid a baswyr!

Pam ymuno â ni?

Mae gan Gantorion Ardwyn Caerdydd, sydd wedi ennill nifer o wobrau, enw da fel un o gorau cymysg mwyaf blaenllaw  De Cymru. Rydym yn falch o’n Cymeictod, gan hybu cerddoriaeth Cymru  a'r iaith. Ar yr un pryd rydym yn mwynhau perfformio cerddoriaeth  nid yn unig o bob gwlad a diwylliant ond o bob cyfnod yn ogystal. Byddwn bob amser yn edrych ymlaen I’r dyfodol  gan gomisiynu cerddoriaeth newydd yn rheolaidd a pherfformio  gweithiau cyfoes ac heriol.  Cawn y cyfle I recordio a darlledu yn aml.

Rydym yn gymuned o unigolion cyfeillgar,cynnes, ymroddedig  sydd o'r un anian ac yn mwynhau'r pleser syml o ganu gydag eraill. Yymdrechwn i wneud hyn hyd eithaf ein gallu. Er ein bod yn awyddus i ddysgu a chael ein herio, cawn lawer o hwyl, gan fwynhau teithio a chymdeithasu gyda’n gilydd.

Beth rydym yn chwilio amdano?

Er ein bod yn gôr amatur, ein nod yw bod mor broffesiynol â phosibl. Ni ddisgwylir perffeithrwydd ond mae angen rhywfaint o ddeallusrwydd cerddorol, profiad o ganu a’r  gallu I ddarllen ar yr olwg gyntaf. Mae  angen i chi hefyd fod yn frwdfrydig ac ymroddedig. Ar hyn o bryd, croesawn geisiadau ar gyfer tenoriaid a baswyr.

Beth yw'r ymrwymiad?

Cynhelir ein hymarferion ar nos Sul yn Neuadd Eglwys Sant Paul, Grangetown, Caerdydd, fel arfer rhwng 7pm a 9pm. Yn achlysurol cynhelir ymarfer yng nghanol wythnos ychydig  cyn cyngerdd mawr neu wyliau hanner tymor.

Yn gyffredinol, cyhoeddir amserlen ymhell ymlaen llaw a dylai aelodau geisio mynychu pob ymarfer a chyngerdd. Ni ddylai absenoldebau oherwydd ymrwymiadau gwaith, salwch a gwyliau fod yn fwy nag 20% yn ystod unrhyw gyfnod.

Yn aml, os na allwch berfformio mewn cyngerdd, fe ddisgwylir i chi fynychu ymarferion I ddysgu’r darnau a fydd yn cael eu perfformio mewn cyngherddau yn y dyfodolol.

Sut i ymuno?

Gwahoddir darpar aelodau newydd i fynychu rhai o’r ymarferion cyn cael clyweliad syml, preifat gyda'n Cyfarwyddwr Cerdd sef  David Leggett. Efallai y bydd prawf ystod llais ac ychydig bach o ddarllen  ar yrolwg gyntaf. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar unwaith os byddwch yn llwyddiannus.

Why join us?

The award-winning Cardiff Ardwyn Singers has a reputation as one of the foremost mixed voice choirs in South Wales. We are proudly Welsh, extoling the music and language but also enjoying work from all eras and places. We also like to look forward, regularly commissioning new music and performing challenging contemporary work. We perform, record and broadcast regularly.

More than this though, we are a community of like-minded, committed individuals who enjoy the simple pleasure of singing with others, and who strive to do this to the best of our ability. While we are keen to learnand be challenged, we also have a lot of fun. We are very warm and friendly people who often tour and socialise together.

What are we looking for?

Although an amateur choir, we aim to be as professional as possible. You don’t need to be the finished article or have had years in a choir, but you do need some musicianship, singing experience and sight-reading ability. You’ll also need to be enthusiastic and committed. At the moment, we are welcoming applications for tenors and basses.

What is the commitment?

We rehearse on a Sunday night at St Paul’s Church Hall, Grangetown, Cardiff, usually from 7pm to 9pm. There are occasional mid-week rehearsals in the week or two before a big concert or a half term holiday.

A schedule is generally issued well in advance and choristers should try to attend all rehearsals and concerts. Absences due to work commitments, illness and holidays shouldn't amount to more than 20% during any period. 

Often, if you are unable to perform in a concert you may still be expected to attend rehearsal as we learn a lot of pieces which then go into our repertoire and which we’ll perform in future concerts.

How to join?

Potential new members are invited to attend a couple of rehearsals before having a simple, private audition with our Music Director David Leggett. There may be a voice range test and a simple bit of sight-reading. We’ll let you know straight away if you’re successful.


 

Why not give us a try? 
Beth am roi cynnig arnom?

Please complete your details below and we'll get in touch as soon as we can.
Llenwch eich manylion isod a chysylltwn â chi cyn gynted ag y gallwn.