Watch us, listen to us, hire us.

Dewch i’n gwylio, gwrando arnom, ein hurio.


Concerts
Cyngherddau

 

Cardiff Ardwyn Singers undertake several concerts a year, mostly in Cardiff, sometimes further afield. We usually perform at least one concert each term, plus extremely popular Christmas concerts and annual 'Sing from Scratch' events where we invite non-members to join us to rehearse and sing pieces from scratch in one day. We are often asked to join other choirs for larger concerts, such as the Welsh Proms in St David's Hall. We also occasionally compete in competitions and Eisteddfodau.

Mae Cantorion Ardwyn Caerdydd yn rhoi sawl cyngerdd y flwyddyn, yng Nghaerdydd rhan amlaf, weithiau ymhellach draw. Fel arfer byddwn yn perfformio o leiaf un cyngerdd y tymor, at hynny cyngherddau Nadolig poblogaidd dros ben a digwyddiadau ‘Canu o Ddim' blynyddol lle byddwn yn gwahodd pobl sydd heb fod yn aelodau i ddod atom ni i ymarfer a chanu darnau o ddim o fewn diwrnod. Yn aml gofynnir i ni ymuno â chorau eraill ar gyfer cyngherddau mwy, megis Proms Cymru yn Neuadd Dewi Sant.  O bryd i’w gilydd byddwn hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau ac Eisteddfodau.


Broadcasts
Darlledu

Cardiff Ardwyn Singers are often called upon to take part in radio and television broadcasts. We regularly perform live on BBC Radio 4's Sunday Morning Service and were on television in 2014 as part of a special service to commemorate the centenary of the outbreak of the First World War. 

Yn aml galwir ar Gantorion Ardwyn Caerdydd i gymryd rhan mewn darllediadau radio a theledu. Byddwn yn perfformio’n fyw yn rheolaidd ar Sunday Worship BBC Radio 4 ac roeddem ar y teledu yn 2014 yn rhan o wasanaeth arbennig i goffáu canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. 


Tours
Teithiau

One of the unique features of Cardiff Ardwyn Singers is the touring we undertake. Touring has so many benefits, it's exciting to visit and sing in new places and to new audiences, it's a great way to bond with other choir members which strengthen the feeling of community, and regular intense practice and performance improves our sound. We have toured to Canada, all over the US, Stuttgart, Malta, Ireland, Finland, Hungary, Barbados, South Africa, Majorca, Italy, Vienna and Krakow. The choir will be visiting Cardiff's twin city of Nantes in May 2018.

Mae Cantorion Ardwyn Caerdydd ar eu pennau’u hunain o ran un peth, sef ein teithio. Mae cynifer o fanteision yn deillio o deithio, mae’n wefreiddiol rhoi tro am fannau newydd a chanu yno i gynulleidfaoedd newydd, mae’n ffordd ardderchog o feithrin perthynas ag aelodau eraill o’r côr sy’n cryfhau ein hymdeimlad o gymuned, ac mae ymarfer a pherfformio’n drylwyr yn gwella ein sain. Buom ar daith yng Nghanada, drwy hyd a lled yr Unol Daleithiau, Stuttgart, Malta, Iwerddon, y Ffindir, Hwngari, Barbados, De Affrica, Majorca, yr Eidal, Fienna a Krakow. Bydd y côr yn ymweld â dinas dwyieithog Nantes Caerdydd ym mis Mai 2018.


Recordings

The Choir have recorded several CDs, the most recent of which is the live recording of our gala concert to celebrate the 50th anniversary of Cardiff Ardwyn Singers. A diverse CD full of choral favourites and new gems to discover, you can buy a copy below.

Recordiodd y côr sawl CD a’r diweddaraf o’u plith yw’r recordiad byw o’n cyngerdd gala i ddathlu hanner canmlwyddiant Cantorion Ardwyn Caerdydd. CD amrywiol a’i lond o ffefrynnau corawl a gemau newydd i’w darganfod, gewch chi brynu copi isod


Weddings & Events
Priodasau a Digwyddiadau

Cardiff Ardwyn Singers are hired to sing at several events a year, such as weddings, funerals and corporate functions. For more information and to enquire about prices please get in touch.

Mae Cantorion Ardwyn Caerdydd yn cael eu hurio i ganu mewn sawl digwyddiad y flwyddyn, megis priodasau, angladdau a derbyniadau corfforaethol. I gael rhagor o wybodaeth ac i holi ynghylch prisiau, cysylltwch â ni.